Fe fuodd pedwar plentyn ifanc farw mewn tân neithiwr, meddai’r heddlu.
Galwyd y gwasanaethau brys i dŷ yn Hulland Ward, ger Ashbourne, Swydd Derby, am 11.30pm neithiwr.
Dywedodd yr heddlu bod y tân wedi ei ddiffodd ond eu bod nhw wedi dod o hyd i gyrff pedwar plentyn y tu mewn i’r tŷ.
“Mae pedwar plentyn – dwy ferch a dau hogyn – wedi marw,” meddai llefarydd.
Roedd yno hefyd “ddifrod sylweddol i’r tŷ”.
“Mae Heddlu Swydd Derby a Gwasanaeth Tân Swydd Derby yn cynnal ymchwiliad ar y cyd er mwyn penderfynu beth achosodd y tân,” meddai.
“Roedd y tân wedi cydio erbyn i ni gyrraedd.”