Mae’n bosib y bydd yr actor o Gymru, Anthony Hopkins, yn chwarae rhan Alfred Hitchcock mewn ffilm newydd am fywyd y cyfarwyddwr enwog.

Fe fydd y ffilm yn seiliedig ar lyfr gan Stephen Rebello, Alfred Hitchcock and the Making of Psycho, ryddhawyd yn 1998.

Yn ôl cylchgrawn wythnosol The Hollywood Reporter mae Anthony Hopkins, 73, o Bort Talbot, yn awyddus i chwarae’r brif ran.

Fe fydd y ffilm yn canolbwyntio ar drafferthion Alfred Hitchcock wrth iddo geisio ariannu’r ffilm er gwaethaf diffyg diddordeb gan gwmnïau mawr Hollywood, a’i berthynas â’i wraig Alma Reville.

Erbyn hyn mae Psycho yn cael ei ystyried ymysg y ffilmiau arswyd gorau erioed, ac mae golygfa’r llofruddiaeth yn y gawod ymysg yr enwocaf yn hanes ffilm.