Fe gafodd gwraig yn yr Unol Daleithiau ei chyhuddo o greulondeb at anifeiliaid ar ôl tagu ci i farwolaeth … am gnoi ei Beibl.

Yn ôl yr awdurdodau, roedd y wraig yn honni bod y ci – daeargi pit bull – yn un o “gŵn y diafol” ac y byddai’n niweidio pobol ei hardal yn Ne Carolina.

Mae Miriam Smith, 65 oed, wedi ei chadw yn y ddalfa wrth aros am drefniant mechnïaeth ac, o’i chael yn euog, fe allai wynebu rhwng 180 diwrnod a phum mlynedd yn y carchar.

Fe ddywedodd yr heddlu bod corff y ci wedi ei gael o dan bentwr o laswellt gyda chorden drydan am ei wddw.