Mae adroddiad diweddara’ Prif Arolygydd Addysg Cymru’n dweud bod un o bob tair ysgol yng Nghymru yn methu â chyrraedd y safonau angenrheidiol.
A, chwe blynedd ar ôl dileu profion SATs mewn ysgolion cynradd, mae Ann Keane hefyd yn awgrymu bod angen gwell ffordd o fesur cynnydd disgyblion, yn enwedig wrth iddyn nhw fynd o’r ysgol gynradd i’r uwchradd.
Dim ond 8% o holl ysgolion Cymru a lwyddodd i gael marciau llawn ym mhob agwedd o’u gwaith, yn ôl Arolwg Blynyddol y corff arolygu Estyn ac roedd problemau arbennig ynghylch y gallu i ddarllen a sgrifennu a rhifo.
Er bod rhai agweddau o addysg a hyfforddiant wedi gwella – er enghraifft mewn colegau addysg bellach – mae’r cynnydd mewn ysgolion wedi bod yn ara’, meddai.
Roedd yr Arolwg Blynyddol yn dod ar ddiwedd chwe blynedd pan gafodd pob sefydliad addysg trwy Gymru ei archwilio.
Casgliadau Estyn
“Mae’n rhaid i ni wynebu ffeithiau yn awr yn fwy nag erioed – mae angen i ni gymryd camau mwy i wella’r ddarpariaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru,” meddai Ann Keane, gan alw am system asesu newydd.
Doedd llawer o ddisgyblion ddim yn cyflawni’u potensial o ran llythrennedd a rhifedd, meddai, ac mae angen gwell hyfforddiant ar gyfer arweinwyr ac athrawon a gweithwyr eraill.