Mae arweinydd seneddol Plaid Cymru’n galw am gael gwared ar y gwas sifil sy’n ysgrifennydd i Ymchwiliad Irac.
Yn ôl Elfyn Llwyd, roedd Margaret Aldred wrth galon y penderfyniadau i fynd i ryfel yn y wlad – pwnc yr ymchwiliad ei hun.
Fe fydd yn codi cwestiynau am y swydd mewn dadl seneddol heddiw ar ôl gweithio am naw mis yn ymchwilio i’r mater.
Mae AS Dwyfor Meirionnydd yn honni nad oes modd i Margaret Aldred fod yn ddiduedd yn ei gwaith o helpu i lunio agenda Ymchwiliad Chilcot ac o helpu i ddrafftio’r adroddiad.
Dirprwy yn yr adran allweddol
Am bedair blynedd a hanner, meddai, roedd Margaret Aldred yn ddirprwy yn yr adran lywodraeth a oedd yn trafod polisi Irac.
“Ei hadran hi a gynhyrchodd y ddogfen amheus ac a ddyfeisiodd y syniad o newid yr arweinyddiaeth yn Irac,” meddai wrth Radio Wales. “Mae yna botensial am wrthdaro difrifol.”
Mae hefyd wedi honni bod penodiad Margaret Aldred – heb i neb arall gael ei ystyried – yn mynd yn groes i reolau’r gwasanaeth sifil.