Mae dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad gyda char yn y Cymoedd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad toc wedi chwech neithiwr ar ffordd yr A4059 yn Aberaman ger Aberdâr.

Fe gafodd cerddwr 75 blwydd oed o Aberaman ei daro gan gar Volkswagen Polo glas oedd yn teithio i’r gogledd tuag at ganol Aberdâr.

Bu farw’r cerddwr o’i anafiadau yn yr ysbyty yn ddiweddarach. Chafodd y wraig 25 oed oedd yn gyrru’r car ddim niwed.

Ar hyn o bryd, mae’r Heddlu’n rhoi cefnogaeth i berthnasau agosaf  y cerddwr ac yn gofyn i unrhyw un a welodd ef neu’r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw ar 101 neu â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.