Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn bwrw ymlaen gyda’r cam nesaf at agor ysgol gynradd Gymraeg newydd yn yr ardal.

Os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen, bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd yn cael ei chreu dros dro ar gampws Ysgol Gynradd Maendy cyn symud i adeiladau newydd tua 2014.

Y bwriad yw agor yr ysgol fis Medi nesaf gyda dosbarth meithrin a derbyn yn y flwyddyn gyntaf. Yna, bydd yr ysgol yn tyfu bob blwyddyn i ddod yn ysgol lawn ar gyfer plant 3-11 oed.

Roedd proses ymgynghori wedi bod ac mae Cyngor y Ddinas yn awr yn symud ymlaen gyda chyhoeddiad statudol sy’n rhoi cyfle newydd i bobol fynegi barn.

Roedd mwyafrif yr ymatebion yn ystod yr wythnosau diwetha’ yn cefnogi’r cynnig, meddai’r Cyngor, ac roedd y disgyblion ar Gyngor yr Ysgol yn Ysgol Maendy hefyd yn gefnogol.

Ar wahân ar ôl 2014                                                                 

Roedd y cynghorydd sy’n gyfrifol am addysg yn dweud y byddai’r ddwy ysgol yn cydweithio’n agos yn y tair blynedd gynta’ ond mai’r nod oedd yn y pen draw oedd dwy ysgol ar wahân.

“Bydd y cyngor yn chwilio am safle addas i greu cartref parhaol ar gyfer yr ysgol newydd cyn tymor yr hydref yn 2014,” meddai’r Cynghorydd David Atwell.