Fe wadodd Arlywydd Zimbabwe, Robert Mugabe, ei fod wedi gorfod cael triniaeth ysbyty am broblemau iechyd difrifol.

Roedd yn beio’r wasg yng ngwledydd y gorllewin a rhai o’i elynion gwleidyddol am ledu “straeon celwyddog”.

Yn ddiweddar, mae gwleidyddion  a swyddogion wedi awgrymu bod yr Arlywydd 86 oed yn colli ei allu i ganolbwyntio.

Roedd adroddiadau yn y wasg ryngwladol yn awgrymu bod Robert Mugabe wedi bod ym Malaysia am driniaeth – fe ddywedodd ef wrth asiantaeth newyddion Zimbabwe mai wedi bod am wyliau yr oedd, yn Singapore.

Etholiadau

Mae’r Arlywydd hefyd wedi bygwth galw etholiadau, er nad yw proses o ddiwygio cyfansoddiad y wlad wedi dod i ben. Mae’n dweud bod nifer o wleidyddion eraill yn cystadlu i geisio’i olynu.

Fe lwyddodd i ddal ei afael ar rym yn 2008 er i’w blaid golli etholiad seneddol, ar ôl i’w brif wrthwynebydd, Morgan Tsvangirai, dynnu’n ôl o’r ras arlywyddol oherwydd trais yn erbyn ei gefnogwyr.

Yn swyddogol, mae’r ddwy blaid mewn llywodraeth glymblaid, ond mae’r honiadau am drais a bygwth yn parhau.