Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi dweud bod gan chwaraewyr sydd heb eu cynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad gyfle i chwarae yng Nghwpan y Byd.
Fe gafodd y blaenasgellwr profiadol, Martyn Williams, a maswr y Gweilch, Dan Biggar, eu gadael allan o garfan 28 dyn Cymru.
Dywedodd Gatland ei fod yn awyddus i roi cyfle i rai o chwaraewyr ifanc Cymru yn ystod y bencampwriaeth fydd yn dechrau fis nesaf.
Ond mae hyfforddwr Cymru wedi dweud bod y drws ar agor o hyd i’r chwaraewyr sydd heb eu cynnwys.
Anafiadau
“R’yn ni wedi colli rhai chwaraewyr ymysg y blaenwyr, ond mae hynny wedi rhoi cyfle i chwaraewyr eraill ddangos eu doniau,” meddai Warren Gatland.
“Ond dyw hynny ddim yn golygu bod y drws ar gau i’r chwaraewyr sydd heb haeddu lle y tro yma.”
Dywedodd Warren Gatland ei fod yn hwb cael croesawu rhai chwaraewyr profiadol yn ôl yn dilyn anafiadau.
Bydd Shane Williams, Lee Bynre, Leigh Halfpenny a Jamie Roberts yn eu hôl yn dilyn cyfnodau ar yr ystlys.
“Mae’n hwb cael rhai o’r chwaraewyr, gan gynnwys Shane a Lee, yn ôl ymysg y cefnwyr,” meddai Gatland.
“Mae Leigh a Jamie hefyd yn dychwelyd ar ôl methu gemau’r hydref – mae’r llinell gefn wedi cryfhau’r sylweddol.”
Nid maint yw popeth
Dywedodd hyfforddwr Cymru ei fod wedi dewis carfan lai na’r arfer yn fwriadol er mwyn efelychu’r sgwad gipiodd y Gamp Lawn yn 2008.
“Mae pawb yn ffit ac yn barod i gymryd rhan yn yr ymarferion a herio ei gilydd am le yn y tîm,” meddai.