Mae dau o gyflwynwyr Sky Sports wedi ymddiheuro ar ôl cael eu recordio yn beirniadu penderfyniad llumanwraig yn ystod y gêm rhwng Wolves a Lerpwl. 

Fe gafodd Andy Gray a Richard Keys eu recordio heb yn wybod iddynt yn trafod y penderfyniad i benodi Sian Massey yn lumanwr yn ystod y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr. 

Daeth Sian Massey i’r penderfyniad cywir yn ystod y gêm ychydig cyn i Lerpwl sgorio eu gôl gyntaf yn erbyn Wolves.

Ond dywedodd y ddau gyflwynwr fod angen i rywun fynd i lawr i esbonio’r rheol iddi.

Ni fydd Andy Gray a Richard Keys yn rhan o’r tîm cyflwyno ar gyfer y gêm rhwng Bolton a Chelsea heno.

Dywedodd llefarydd ar ran Sky bod yr hyn ddywedodd Andy Gray a Richard Keys yn “annerbyniol”.

“Ry’n ni wedi siarad â Richard ac Andy ac maen nhw wedi ymddiheuro,” meddai llefarydd ar ran Sky. 

Dywedodd Cymdeithas Bêl Droed Lloegr eu bod nhw’n cefnogi Sian Massey. 

“Mae’r gymdeithas wedi bod yn ymdrechu i annog swyddogion gwrywaidd a benywaidd i ymuno a’r gêm ar bob lefel, ac fe fyddwn ni’n parhau i wneud hynny,” meddai  Cymdeithas Bêl Droed Lloegr mewn datganiad.