Mae Adam Matthews a Joe Allen wedi eu cynnwys yng ngharfan dan 21 Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon fis nesaf. 

Mae amddiffynnwr Caerdydd a chwaraewr canol cae Abertawe eisoes wedi chwarae i’r brif dîm rhyngwladol ac fe fydd eu profiad yn hwb i garfan 18 dyn Brian Flynn.

Mae Ashley Richards o Abertawe, sydd wedi ennill wyth cap i’r tîm dan 21, hefyd yn y garfan. 

Fe allai chwaraewyr canol cae AFC Wimbledon, Reece Jones, a Jonathan Meades o Gaerdydd, ennill eu capiau cyntaf. 

Fe fydd Cymru yn wynebu Gogledd Iwerddon ar y Cae Ras ar 9 Chwefror. 

Carfan dan 21 Cymru

Chris Maxwell (Wrecsam), Rhys Taylor (Chelsea), Daniel Alfei (Abertawe), Tom Bender (Colchester Utd), Troy Brown (Ipswich), Paul Dummett (Newcastle Utd),  Adam Matthews (Caerdydd), Ashley Richards (Abertawe), Joe Allen (Abertawe), Billy Bodin (Swindon) Reece Jones (AFC Wimbledon), Lee Lucas (Abertawe), Jonathan Meades (Caerdydd),  Jonathan Williams (Crystal Palace), Elliott Chamberlain (Caerlŷr), Ryan Doble (Southampton),  Robert Ogleby (Hearts), Jake Taylor (Reading).