Mae chwaraewr canol cae Cymru, Aaron Ramsey, wedi dweud ei fod yn dychwelyd i Gaerdydd ar yr amser iawn. 

Fe ymunodd chwaraewr Arsenal gyda’r Adar Glas dros y penwythnos ar gytundeb benthyg mis o hyd. 

Ond mae rheolwr Caerdydd, Dave Jones wedi dweud y gallai Ramsey aros am gyfnod hirach. 

Fe fydd y Cymro ifanc yn gobeithio rhoi hwb i Gaerdydd wrth iddynt anelu at ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr. 

“Rydw i’n teimlo mai dyma’r amser iawn i mi ddychwelyd. Rydw i eisiau chwarae rhai gemau a helpu Caerdydd i gael y pwyntiau,” meddai Ramsey. 

“Mae’r deg mis diwethaf wedi bod yn anodd ar adegau, ond  mae gen i gefnogaeth wych, sydd wedi helpu.

“Rwy’n teimlo fy mod i bron a bod yn ôl ar fy ngorau. Ond fe fydd angen un neu ddwy gêm arall.

“Y gobaith oedd dechrau chwarae’n gyson yn syth ar ôl dychwelyd, ond roedd hynny braidd yn uchelgeisiol.”

Mae Aaron Ramsey eisoes wedi treulio cyfnod ar fenthyg gyda Nottingham Forest y tymor yma, ond roedd yn awyddus i ddychwelyd at glwb y brifddinas. 

“Mae’r tîm wedi newid ers i mi adael ac mae rhai o chwaraewyr gorau’r gynghrair yn chwarae yma nawr.”