Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd 16 o swyddi ar eu gwefan yn dod i ben.

Dywedodd cangen Gymreig y gorfforaeth mai’r nod oedd “gweithio ag undebau a’r unigolion dan sylw er mwyn osgoi diswyddiadau gorfodol”.

Cadarnhaodd y BBC heddiw y byddai 360 o staff yn colli eu gwaith ar draws Prydain erbyn 2013 wrth i’r gorfforaeth anelu at wario 25% yn llai ar eu gwefan.

Mae gwefan BBC Cymru yn darparu newyddion materion cyfoes a chwaraeon yng Nghymraeg ac yn Saesneg.

“Bydd pob rhan o’r BBC yn cyfrannu at y targed cyffredinol ar gyfer arbedion ar-lein,”  meddai llefarydd ar ran BBC Cymru wrth Golwg360.

“O ganlyniad i’r newidiadau sydd wedi eu cyhoeddi, r’yn ni’n disgwyl y bydd tua 16 o swyddi ar-lein yn dod i ben erbyn 2013.”