Mae’r heddlu wedi cyhuddo dau ddyn mewn cysylltiad â lladrad arfog yn Co-Op Llangollen ar 20 Ionawr.
Bydd y dynion 23 ac 20 oed o Ddinbych yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno heddiw wedi’u cyhuddo o’r lladrad.
Mae dau ddyn arall o Ddinbych wedi’u harestio ar amheuaeth o helpu’r troseddwyr ac wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau barhau.