Mae mwy na 30 o bobol wedi eu lladd heddiw ar ôl i fom ffrwydro mewn maes awyr ym Moscow, Rwsia.

Digwyddodd y ffrwydrad ym Maes Awyr Domodedovo, y prysuraf o’r tri maes awyr sydd yn y brifddinas.

Dywedodd asiantaeth newyddion RIA Novosti bod 31 wedi eu lladd a 130 wedi eu hanafu.

“Clywais i ffrwydrad,” meddai un llygad dyst. “Fe welais i heddwas wedi ei orchuddio â gwaed a darnau o gnawd. Roedd o’n gweiddi, rydw i wedi goroesi!”

Yn 2004 llwyddodd dau derfysgwr i brynu tocynnau anghyfreithlon gan weithwyr yn y maes awyr. Ffrwydrodd yr awyren yn yr awyr gan ladd 90 o bobol.

Ym mis Mawrth ymosododd terfysgwyr ar system trenau tanddaearol y ddinas gan ladd 39 ac anafu 60.