Mae undebau, cynghorau lleol a Llywodraeth y Cynulliad wedi datgelu cytundeb sy’n dangos eu bod nhw’n gytun ynglŷn â’r “ffordd Gymreig o ymdopi â thoriadau Llundain”.

Daw’r cytundeb yn dilyn trafodaethau rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chorff cydgysylltu undebau TUC Cymru, wedi eu harwain gan y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Mae’r cytundeb rhwng cynghorau ac undebau yn cynnwys addewid i gydweithio er mwyn arbed swyddi yn y sector gyhoeddus yng Nghymru.

Rhybuddiodd y cynghorau na allen nhw addo na fydd yna ddiswyddiadau gorfodol yn gyfan gwbwl ond fe fydden nhw’n ystyried ystod eang o opsiynau eraill o flaen llaw.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, Martin Mansfield, ei fod yn “gam arwyddocaol ymlaen wrth ddatblygu ffordd Gymreig o ymdopi â thoriadau Llundain”.

“Bydd undebau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn dod o hyd i atebion arloesol i broblemau.”

Dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, John Davies, mai “cadw swyddi yw’r flaenoriaeth yn yr hinsawdd economaidd anodd yma”.

Ychwanegodd bod y cytundeb “yn dangos bod Cymru yn ymdopi â’r toriadau mewn modd gwahanol ac yn bwriadu osgoi torri swyddi os yw hynny’n bosib”.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod y cytundeb yn dangos fod “pawb yn fodlon gweithio â’i gilydd er mwyn amddiffyn y gweithlu rhag toriadau gorfodol”.