Mae swyddogion sw yn Tehran wedi gorfod lladd 14 o lewod ar ôl iddyn nhw ddal afiechyd bacteriol heintus, datgelodd un o bapurau newydd y wlad heddiw.
Yn ôl papur newydd dyddiol Jam-e Jam roedd y cathod mawr yn dioddef o lynmeirch – afiechyd sy’n fwy cyffredin mewn ceffylau, mulod ac asynnod.
Mae yn gallu lledu o un anifail sydd wedi ei heintio i anifail neu berson arall.
Dywedodd y Milfeddyg Houman Moloukpour wrth y papur newydd fod camreolaeth o fewn y sw yn bennaf gyfrifol am orfod lladd y llewod.
Doedd y papur newydd ddim yn dweud pryd y cafodd y llewod eu lladd.
Mae llynmeirch yn anghyffredin yn y Gorllewin, ond yn bla mewn rhannau o Affrica, Asia, y Dwyrain Canol a De America.