David Cameron
Mae David Cameron wedi cyfaddef heddiw bod ei bennaeth cyfathrebu Andy Coulson yn “teimlo cywilydd” ynglŷn â’r stŵr dros hacio ffonau symudol.
Digwyddodd yr hacio ffonau symudol ym mhapur newydd The News of the World pan oedd Andy Coulson yn olygydd.
Ymddiswyddodd yn 2007 pan ddaeth i’r amlwg bod ei ohebwyr wedi gwrando ar negeseuon peiriant ateb enwogion, ond mae o wedi gwadu ei fod yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen.
Gwrthododd y Prif Weinidog gadarnhau adroddiadau bod Any Coulson wedi cynnig ymddiswyddo dros y mater, a mynnodd ei fod yn “haeddu ail gyfle”.
“Yn amlwg, fe ddigwyddodd pethau drwg pan oedd yn olygydd ar y News of the World,” meddai wrth raglen Today Radio 4.
“Rydw i’n meddwl mai’r perygl ydi ei fod yn cael ei gosbi ddwywaith am yr un trosedd.
“Rydw i wedi rhoi ail gyfle iddo. Weithiau mewn bywyd dyna’r peth cywir i’w wneud.
“Mae o, wrth gwrs, yn teimlo cywilydd, fel y byddai unrhyw un arall, ynglŷn â’r cyhoeddusrwydd diddiwedd am rywbeth ddigwyddodd flynyddoedd yn ôl pan oedd yn olygydd ar y News of the World.”
Ychwanegodd bod swyddfa’r wasg Stryd Downing yn gweithio mewn modd “addas” ac nad oedden nhw wedi derbyn yr un cwyn.