Mae ymgyrchwyr iaith wedi dechrau gwersylla tu allan i ganolfan y BBC ym Mangor heddiw er mwyn galw ar y gorfforaeth i atal toriadau i’w gwasanaethau yng Nghymru.

Dechreuodd tua 12 o ymgyrchwyr wersylla ar safle Bryn Meirion ger Prifysgol Bangor am tua wyth o’r gloch y bore.

Dywedodd yr ymgyrchwyr, o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, eu bod nhw’n pryderu am effaith toriadau mewnol y BBC ar y cyfryngau yng Nghymru.

Ychwanegodd yr ymgyrchwyr wrth Golwg 360 eu bod nhw’n bwriadu aros yno nes eu bod nhw’n derbyn ymateb cadarnhaol i’w pryderon gan reolwyr y BBC.

Mae’r heddlu wedi bod draw i siarad â nhw ond heb arestio unrhyw un eto.

Yn ôl Menna Machreth, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, dywedodd yr heddlu bod y tir y maen nhw’n gwersylla arno yn ‘breifat’.

“Rydan ni’n aros am ymateb gan Mark Thompson ar hyn o bryd,” meddai Menna Machreth, gan ychwanegu eu bod nhw’n bwriadu “aros yma nes y daw ateb”.

Mae tair pabell fawr wedi’u gosod ar y safle gan y Gymdeithas a baneri’n darllen “gwersyll amddiffyn darlledu Cymru” ac “Achub S4C”.

Bydd rhagor  o ymgyrchwyr yn ymuno drwy gydol yr wythnos ac yn cysgu ar y safle, meddai’r Gymdeithas.

“Rydan ni eisiau codi ymwybyddiaeth am yr angen am weledigaeth newydd i fyd darlledu yng Nghymru,” meddai Menna Machreth.

Toriadau

Maen nhw wedi anfon e-bost ar Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Mark Thompson, yn galw am atal y toriadau.

“Mae’r cyfryngau yng Nghymru o dan fygythiad oherwydd y toriadau i S4C a’r BBC yng Nghymru,” meddi’r e-bost.

“Galwn ar i reolaeth y BBC yn Llundain i dynnu allan o’u cytundeb gyda Llywodraeth San Steffan i uno S4C a’r BBC.

“Mae yna gonsensws eang yng Nghymru bod y cynlluniau yn anghywir … mae degau o filoedd o bobl wedi gwrthwynebu’r cynlluniau gan gynnwys Archesgob Cymru ac arweinwyr y pleidiau Cymreig.”

20%

Mae’r BBC wedi cytuno i gymryd drosodd ariannu S4C a gwasanaeth y World Service yn ogystal â rhewi’r drwydded teledu.

Yn sgil hynny mae pob adran o’r BBC yn gobeithio gwneud toriadau o tua 20% i’w gwasanaethau, gan gynnwys BBC Cymru.

Datgelodd Golwg 360 fis diwethaf fod cau stiwdio’r darlledwr ym Mangor yn un o’r opsiynau sy’n cael eu hystyried.

“Yn dilyn refferendwm mis Mawrth, mae angen gweledigaeth newydd ar gyfer y cyfryngau i gyd yng Nghymru, nid torri’r ychydig wasanaethau sydd gennym ar hyn o bryd,” meddai Meddai Menna Machreth.

“Rydym yma i roi neges glir i benaethiaid y BBC yn Llundain – nid toriadau sydd eu hangen ond strategaeth a syniadau clir ar gyfer dyfodol llewyrchus i ddarlledu yma yng Nghymru. Nid ydym yn fodlon derbyn dirywiad mewn gwasanaethau fel Radio Cymru, S4C, a BBC Cymru’n gyffredinol – gwasanaethau sydd mor bwysig i bobl Cymru.”

Ymateb y BBC

“Dyw penderfyniad Llywodraeth San Steffan i newid y modd caiff S4C ei ariannu ddim yn golygu fod y BBC yn gallu nac yn bwriadu cymryd S4C drosodd,” meddai llefarydd ar ran y BBC wrth Golwg360 heddiw.

“Mae BBC yn hollol ymrwymedig i ddarpariaeth Gymraeg ac i S4C sy’n olygyddol annibynnol.

“Mae’r BBC hefyd wedi ei gwneud yn glir bod gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn parhau i fod yn ganolog i’r hyn mae’n ei wneud ar ei wasanaethau a bydd unrhyw benderfyniad ddaw ar ddiwedd y broses o gyrraedd targedau arbedion heriol yn gorfod cael eu cymeradwyo gan Ymddiriedolaeth y BBC.”