Luke Evans
Cymro sydd wedi ennill y rhan actio fawr ola’ yn ffilm newydd Peter Jackson, y cyfarwyddwr oedd yn gyfrifol am drioleg Lord of the Rings.
Yn ôl gwefan ffilmiau Deadline, Luke Evans fydd yn portreadu ‘Bard the Grim’ yn The Hobbit – sef ffilm sy’n mynd nôl i gyfnod cynharach ym mywydau cymeriadau’r Lord of the Rings.
Mae’r ffilm eisoes yn cael ei gwneud yn Seland Newydd, lle cafodd trioleg Lord of the Rings ei ffilmio hefyd.
Mi fydd y Cymro yn lladd draig yn y ffilm newydd.
Pwy?
Mae Luke Evans yn chwarae rhan Aramis yn y ffilm newydd Three Musketeers, ac mae wedi ymddangos yn y ffilmiau Immortals, Robin Hood a Clash of the Titans – cafodd uchafbwynt y ffilm honno ei wneud yn hen Chwarel Dinorwig ger pentref Deiniolen yn Arfon.