Mae criw o lenorion o ogledd Cymru wedi datgan eu “pryder a siom” ynglŷn â chynlluniau i adeiladu tai y maen nhw’n pryderu bydd yn “peryglu tirwedd a diwylliant Cymru”.

Mae’r criw sy’n cynnwys Angharad Tomos, Lloyd Jones, Dr Angharad Price a’r Athro John Rowlands yn beirniadu ymateb Llywodraeth Cymru i gynlluniau i adeiladu tai ar draws gogledd Cymru.

Mewn llythyr a ddanfonwyd at Golwg 360 maent yn “eich rhybuddio chi fod criw CF99 yn y brifddinas yn trio rheibio glasdir y gogledd ac wrthi’n lladd ein diwylliant”.

Ysgrifennwyd y llythyr gan Lloyd Jones a’i arwyddo gan naw awdur a bardd blaenllaw, ac mae’n beirniadu cyfres o gynlluniau dadleuol i adeiladu tai yn y gogledd.

Mae’r rheini yn cynnwys y ‘West Cheshire Plan’, “cynllun cudd” i godi 20,000 o dai newydd yng ngogledd ddwyrain Cymru, cyn i wrthwynebiad lleol ladd y syniad.

Ond mae awduron y llythyr yn pryderu fod cynlluniau eraill i godi tai ar draws y gogledd, mor bell â Chaergybi, yn parhau a’u bod yn peryglu cymunedau yng ngogledd Cymru.

‘Siomedig’

Dywedodd yr awdures a’r academydd Dr Angharad Price wrth Golwg 360 fod ymateb Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones,  i’r cynllun i adeiladu tai yn y gogledd ddwyrain wedi bod yn “siomedig ac annigonol”.

Mae’r llythyr yn dweud mai ymdrech pobol leol a fu’n gyfrifol am atal gwireddu’r cynllun llawn yn y pen draw – ond fod llawer o dai eisoes wedi eu hadeiladu erbyn i’r Cynulliad ddiarddel y cynllun ar 1 Ebrill 2011.

Maent bellach yn pryderu fod cynlluniau yn bygwth rhannau eraill o Ogledd Cymru, dan y Cynllun Datblygu Lleol.

“Er bod son am dai rhad i bobol ifanc leol cewch fod yn hollol sicr mai pitw iawn fydd y rhain,” meddai Lloyd Jones yn y llythyr. “Na, pobol estron fydd yn dod i fyw ar y stadau mawr newydd ’ma.”

Mae’r awdur hefyd yn poeni fod y datblygiadau yn mynd i fod yn niweidiol i ddiwylliant Cymreig y Gogledd, a bod hynny eisoes wedi bod yn digwydd yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd codi tai yn yr ardal.

Y Llythr

Tybed faint wyddoch chi am waith y Cynulliad yn y gogledd? Ydych chi’n frwd dros y corff arbennig hwn, a aned i hybu ac i swcro ein gwlad a’i phobol?

Doedd neb yn falchach na fi pan fathwyd llywodraeth annibynnol i Gymru.

Ond heddiw rwy’n sgwennu i’ch rhybuddio chi fod criw CF99 yn y

brifddinas yn trio rheibio glasdir y gogledd ac wrthi’n lladd ein

diwylliant.

Wna’i ddechrau efo’r West Cheshire Plan fel y gelwid ef.

Cynllun cudd oedd hwn i greu rhanbarth newydd yn Nwyrain Cymru efo

20,000 o dai newydd ar yr ochr Gymraeg.

Roedd Cymru a Lloegr i weithio ar y cyd i alluogi miloedd ar filoedd o Saeson i lifo i’r fro. Mae’n amlwg fod y Cynulliad yn berffaith hapus efo’r strategaeth hon ond fe orchfygwyd y cynllun gan filoedd o bobol leol yn barod i ymladd dros eu bro dan faner Gymreig: Deffro’r Ddraig.

Er i’r Cynulliad ddiarddel y cynllun ar Ebrill 1, 2011, mae llawer o’r tai wedi eu hadeiladu eisoes.

Yn anffodus, mae’r clwy wedi lledu ar hyd yr arfordir erbyn hyn. Dan fantell y Local Development Plans mae’r Cynulliad eisiau gweld bron i 2,000 o dai newydd ym Modelwyddan, ar wastadir enwog Rhuddlan, a hefyd llu o dai ym Mhenmaenmawr a Llanfairfechan, ac mae marina a swp o dai ar y gweill yn Newry yng Nghaergybi.

Er fod son am dai rhad i bobol ifanc lleol cewch fod yn hollol sicr mai pitw iawn fydd y rhain. Na, pobol estron fydd yn dod i fyw ar y stadau mawr newydd ’ma.

Does gen i ddim byd o gwbl yn erbyn pobol estron, fydda i’n rhoi croeso iddyn nhw fel pawb arall. Ond cyn i’r Cymry a’u diwylliant ddiflannu ar yr arfordir, oni ddyliai’r Cynulliad fod ar flaen y gad yn y frwydr i achub y genedl?

Yn lle creu strategaeth i adeiladu tai a fflatiau destlus ar gyfer ein ieuenctid mae’r Cynulliad yn awyddus i weld miloedd o dai drud dosbarth canol yn codi fel madarch ar hyd a lled y wlad; nid Cymry fydd yn byw ynddynt, fe wyr pawb hynny.

Ond o le ddaeth y strategaeth hon?

Does neb yn hollol sicr, ond cyn i Plaid Cymru a’r Toriaid siarad yn ei herbyn mae’n debyg mai’r Blaid Lafur yw’r injan sy’n gyrru’r tren. Dywed rhai fod y llyffant llwfr John Prescott (a aned ym Mhrestatyn) wedi tanio’r injan yn y lle cyntaf. Nuff said, chwedl y Sais.

Yn 2002, cerddais reit o amgylch Cymru yn ei chyfanrwydd, mil o filltiroedd ar droed. Be welais i oedd gwlad brydferth iawn, un o’r prydferthaf yn y byd. Rwyf wedu cerdded ar ei thraws hi naw gwaith ers hynny ac wedi clywed yr iaith yn diflannu. Dydw i ddim eisiau cludo newyddion drwg, ond fe wyddoch cystal a minnau fod y cymylau yn duo, dim ots be ddywed yr ystadegau.

Aeth y genedl yn ddistaw. Pethau dof ’da ni rwan, te? Mae’r distawrwydd na’n poeni dyn. Ai distawrwydd gorffenedig yw o, ta’r math o ddistawrwydd sy’n dod cyn storm?

Yn ystod fis Mai fe anfonais ddeiseb i bob cynghorydd sir yng Ngogledd Cymru. Dyma oedd byrdwn fy neges: Prif adnoddau Cymru yw ei phrydferthwch a’i phobl; ei harddwch a’i diwylliant unigryw. Bydd stadau enfawr ar lasdir yr arfordir yn fygythiad uniongyrchol i’r fuchedd Gymreig, a harddwch y wlad.

Mae’r fro eisoes yn gwegian dan faich tyfiant aruthrol sy’n newid ei chymeriad; byddai mwy o stadau enfawr yn tagu’r hen fuchedd gynhenid ac yn creu dormitory fawr ar gyfer pobol sy’n gweithio ar y gororau neu tu hwnt.

Dichon fod y cynlluniau newydd, sy’n cael eu gyrru ymlaen gan y Cynulliad, yn nwylo swyddogion di-Gymraeg sydd heb wreiddiau yn y fro, ac sydd heb unrhyw gydymdeimlad â’r Cymry, na’r henwlad chwaith. Be glywaf i yw pobol yn gofyn am waith sy’n debyg o barhau, a rhywle eitha rhad i fyw. Does na ddim digon o waith fel ag y mae hi i’r bobol

lleol.

Fe wyddom yn barod fod llu o bobol wedi symud i Gymru i fwynhau ei phrydferthwch a’i distawrwydd, ond bydd adeiladu miloedd o dai yma ar eu cyfer yn ail-greu y blerwch cymdeithasol sydd wedi eu gyrru nhw yma yn y lle cyntaf. Diwedd y gan fyddai tai ar hyd y ffordd o Gaer i Fangor, heb gae glas i’w weld drwy gydol y siwrne.

Dylai fod y Cynulliad yn ein hamddifyn, nid ein chwalu. Mae Cymreictod y fro dan fygythiad enbyd; byddai llif newydd o bobol estron yn tagu’r diwylliant Cymraeg yma unwaith ac am byth. Dyma i chi enghraifft: mae ’na ugeiniau o dai gwag yn Llanfairfechan,

wedi eu prynu gan estroniad fel buddsoddiad, tra fo cynllun rwan i adeiladu stad enfawr ar gae hardd ar ffin y pentre, cae sy’n creu golau a harddwch i’r trigolion.

A druan o wastadedd enwog Rhuddlan; môr o dai fydd hwnnw cyn bo hir. Cofiwch fod poblogaeth y byd ar fin cyrraedd lefel beryglus, gan achosi prisiau uchel am fwyd a thanwydd; oni ddylem ninnau hefyd wneud ein rhan i roi caead ar dyfiant dynol ryw? Mae natur dan y lach, efo sawl math o aderyn ac anifail wedi diflannu am byth. Wnaiff creu math o Gilgwri arall ar hyd yr arfordir wneud dim i achub byd natur. Ychydig iawn o amser gaed i wrthwynebu’r cynlluniau ’ma, sy’n peri rhywun i feddwl fod y Cynulliad eisiau eu pasio nhw heb i neb wybod amdanynt. Ond rhaid i ni roi pen ar eu planiau gorffwyll nhw. Da chi, gwnewch eich gorau glas i gadw Cymru’n wlad braf efo diwylliant a gobaith.

Gofynnwch i’ch AC: beth yw eich safbwynt chi parthed y cynlluniau hyn? Cofiwch, os mynnir y stadau mawr yma yn Ninbych a Chonwy eleni, fe welwch gynlluniau tebyg yn eich bro chi hefyd cyn bo hir.

Cofiwch Dryweryn.

Lloyd Jones (awdur Y Dŵr)

Abergwyngregyn.

Cefnogwyd gan: Sian Melangell Dafydd, Myrddin ap Dafydd, Angharad

Elen, Robat Gruffudd, Gwion Hallam, Angharad Price, Francesca

Rhydderch, John Rowlands, Angharad Tomos.