Mae peilot wedi gwrthod hedfan o Faes Awyr Caerdydd am ei fod yn pryderu ynglŷn â faint o alcohol yr oedd un o’r teithiwr wedi ei yfed.

Bu’n rhaid gofyn i ddyn 31 oed o Abertawe, oedd yn ofni hedfan, i adael yr awyren oedd ar fin hedfan o Gaerdydd i Bodrum yn Nhwrci nos Lun.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi helpu i hebrwng y dyn o’r awyren. Dydyn nhw ddim yn bwriadu ei gyhuddo o drosedd.

“Gofynnwyd i’r heddlu hebrwng dyn o awyren oedd ar fin teithio o Gaerdydd i Bodrum neithiwr ar ôl i’r peilot wrthod hedfan,” meddai’r heddlu mewn datganiad.

“Roedd y dyn 31 oed o Abertawe yn ofni hedfan ac roedd y pilot yn pryderu ei fod wedi yfed gormod o alcohol.”