Mae corff môr-filwr o Gaerfyrddin a fu farw mewn ffrwydrad yn Afghanistan yn cael ei gludo’n ôl i wledydd Prydain heddiw.
Fe fydd corff Dean Mead, 19 oed, yn cael ei hedfan yn ôl i RAF Lyneham yn Wiltshire ac yn teithio trwy dref Wootton Bassett.
Yn ôl traddodiad y dref, mae disgwyl i bobol leol ac aelodau’r Lleng Brydeinig Frenhinol ymuno â theulu a ffrindiau’r milwr ar y strydoedd i dalu teyrnged iddo.
Nigel Dean Mead
Roedd Dean Mead yn rhan o gyrch i chwilio adeilad yn ardal Loy Mandeh Wadi yn nhalaith Helmand.
Roedd wedi ymuno a’r Môr-filwyr Brenhinol ym mis Hydref 2008 yn 17 ac yn un o’r môr-filwyr ieuenga’ ar y pryd.
Roedd yn byw yng Nghaerfyrddin gyda’i fam Amanda Jones a’i chwarae Jessica.
Teyrngedau
Dywedodd ei fam fod y newyddion wedi “torri ei chalon” ac na fydd hi byth eto yn ei glywed yn dweud “dw i’n dy garu di, mam”.
Dywedodd ei dad Philip fod y “golled drasig” wedi ei “daro’n fud”. “Fe fyddi di yn ein calonnau ni am byth, nes ein bod ni’n cyfarfod unwaith eto,” meddai.