Ken Clarke - dan bwysau (yup CCA 2.0)
Parhau y mae’r pwysau ar yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Ken Clarke, ar ôl ei sylwadau am dreisio.

Neithiwr, fe ddywedodd y llefarydd Llafur ar faterion cartref nad oedd ei ymgais i gywiro’i sylwadau yn ddigon.

Doedd Ken Clarke ddim fel petai’n deall pa mor ddifrifol oedd ei eiriau, meddai Yvette Cooper, ac roedd rhaid iddo fynd yn llawer pellach na “geiriau twyllodrus”.

Mae’r Ysgrifennydd wedi gorfod ymddiheuro i wraig a ymddangosodd ar yr un rhaglen ag ef, pan roddodd yr argraff bod rhai mathau o dreisio’n fwy difrifol nag eraill.

Fe ddywedodd Ken Clarke fod yn ddrwg ganddo os oedd wedi brifo teimladau’r wraig a oedd wedi cael ei threisio ei hunan. Mae wedi pwysleisio bod pob math o dreisio “yn ddifrifol”.

Gwrthod ymddiheuro

Ond mae wedi gwrthod rhoi ymddiheuriad llawn am ei sylwadau ar y sianel radio Radio Five Live ac fe fydd yn dod dan ragor o bwysau heno wrth ymddangos ar y rhaglen holi, Question Time.

Mae’r dadlau’n parhau am bwnc y drafodaeth hefyd – awgrym y Llywodraeth y dylai’r ddedfryd ar rai troseddwyr, gan gynnwys treiswyr, gael ei haneru os oedden nhw’n pledio’n euog o’r dechrau’n deg.

Gostyngiad o un rhan o dair yw’r mwya’ sydd ar gael ar hyn o bryd.