Un o awyrennau Sol (Albarmalko CCA 2.5)
Mae’n ymddangos bod 22 o bobol wedi cael eu lladd mewn damwain awyren ym Mhatagonia.
Yn ôl yr awdurdodau’n lleol, does neb wedi byw trwy’r ddamwain a ddigwyddodd yn nhalaith Rio Negro, i’r gogledd o Chubut lle mae’r Wladfa Gymraeg.
Roedd yr awyren – taith SOL 5428 – ar ei ffordd o ddinas Neuquén ger mynyddoedd yr Andes i Comodoro Rivadavia ar arfordir Chubut, i’r de o Drelew a Phorth Madryn.
Mae pobol yn ardal y ddamwain mewn tref o’r enw Los Menucos wedi sôn am “ffrwydrad yn yr awyr”.
Roedd yna 19 o deithwyr ar yr awyren a thri o griw ac yn ôl gwefan y cwmni awyrennau, Sol, roedd y ddamwain wedi digwydd tua 25 km i’r de o Los Menucos.
Doedd dim gwybodaeth eto am y rhesymau tros y ddamwain, medden nhw, ac roedd gweithwyr achub yn cael trafferthion oherwydd natur yr ardal.