Llun cyhoeddusrwydd o Gabby Joseph
Cyn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera oedd y ferch 16 oed a gafodd ei lladd gan drên yn Llansawel nos Lun.

Roedd Gabby Jospeh, 16, bellach yn Ngholeg Castell Nedd Port Talbot ar ôl gadael yr ysgol yn ystod yr haf llynedd.

Yn ôl Cadeirydd Llywodraethwyr Ystalyfera, roedd gyrfa ddisglair o’i blaen hi ac roedd hi’n ferch boblogaidd iawn.

Dyfalu

Roedd mab Alun Llywelyn yn arfer bod yn yr un dosbarth â’r ddarpar fodel – roedd llawer o athrawon yr ysgol hefyd wedi cael sioc o glywed am ei marwolaeth.

Mae ei teulu Gabby Joseph wedi cadarnhau bod yr heddlu’n edrych ar neges yr oedd hi wedi ei roi ar ei safle Facebook ac mae ffrindiau wedi bod yn talu teyrngedau iddi ar wefan Twitter.

Maen nhw hefyd yn dyfalu am y rheswm y tu ôl i’w marwolaeth a ddigwyddodd y tu allan i’w chartref yn Llansawel ger Castell Nedd – fe gafodd ei darganfod ar y rheilffordd am 9.30pm nos Lun.

Neges ar Facebook

Mae rhai a welodd y negeseuon ar Facebook yn dweud bod ffrinidau wedi ceisio ei darbwyllo rhag gwneud dim gwael ond wedyn fe drodd y negeseuon yn alaru.

Mae gwefan y Daily Mail yn dyfynnu un o’i theulu’n dweud nad oedd Gabrielle yn dangos unrhyw arwyddion o iselder ond yn crefu ar bobol ifanc i beidio â chadw pethau iddyn nhw eu hunain.

Roedd y ferch 5’4” wedi dechrau ar yrfa fodelu ar ei liwt ei hun ac roedd wedi rhoi neges ar wefan fodelu’n dweud “er mwyn bod yn angenrheidiol rhaid i chi wastad fod yn wahanol”.

Yn ôl ffrindiau, roedd hi’n “ferch brydferth” a “hapus”.