Mae heddlu sy’n ymchwilio mewn i achos o ymosodiad rhywiol difrifol wedi apelio am wybodaeth i ddod o hyd i ddyn 29 oed sy’n dod yn wreiddiol o Wlad Pwyl.


Krzysztof Monko
Mae Heddlu De Cymru yn chwilio am Krzysztof Monko yn dilyn ymosodiad ar fenyw yn ei 20au yn ardal Glan yr Afon, Caerdydd, yn oriau mân bore dydd Llun.

Fe fu’n rhaid iddi  gael triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn dilyn yr ymosodiad – mae wedi gadael yr ysbyty erbyn hyn.

Yn ôl disgrifiad yr heddlu, mae Krzysztof Monko’n ddyn 6’5” o daldra gyda gwallt coch byr a llygaid glas ac mae’n siarad Pwyleg a Saesneg. Mae ar ddeall bod ganddo ôl crafiad ar ei wyneb.

“Mae’r heddlu yn awyddus i siarad gydag ef ynglŷn â digwyddiad yn oriau mân 25 Ebrill mewn cartref yng Nghaerdydd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.

Fe ddylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 02920 571 542 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.