Yr Ambiwlans Awyr
Fe lwyddodd parc antur y Gelli Gyffwrdd i godi £3,000 at Ambiwlans Awyr Cymru ddoe wrth roi arian y clwydi i gofio am fachgen a fu farw yno.

Yr Ambiwlans Awyr oedd wedi  cario Bailey Sumner, 11 o Blackpool, i Ysbyty Gwynedd, ddydd Sul ar ôl damwain yn y parc.

Roedd wedi syrthio oddi ar wifren wib yn y parc, lai nag wythnos ar ôl iddi gael ei hagor ac roedd y parc, sydd hefyd yn cael ei adnabod wrth ei enw Saesneg, Greenwood Forest Park, ynghau ddydd Llun y Pasg.

“Roedd hi ychydig tawelach nag arfer ond mi ddaeth cannoedd o ymwelwyr i’r parc yr un fath. Rydan ni eisiau diolch iddyn nhw am eu cefnogaeth,” meddai Stephen Bristow, Rheolwr Gyfarwyddwr  y Gelli Gyffwrdd sydd rhwng pentrefi Y Felinheli a Bethel yn Arfon.

“Mae’n drist iawn gennym fod y digwyddiad trasig hwn wedi digwydd ac mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda’r teulu.”