George Osborne - 'y llwybr cywir'
Fe dyfodd economi gwledydd Prydain o ychydig yn ystod chwarter cynta’r flwyddyn – ond mae’r ofnau am ail ddirwasgiad yn parhau.
Yn ôl y disgwyl, fe ddangosodd y ffigurau diweddara’ heddiw fod holl gynnyrch yr economi – GDP – wedi tyfu o 0.5% a hynny ar ôl iddo gwympo o 0.5% yn chwarter ola’ 2010.
Er mai dyma oedd y proffwydoliaethau tros y dyddiau diwetha’ roedd economegwyr wedi dweud cyn hyn y byddai cynnydd o lai nag 1% yn siomedig.
Ac yn ôl y swyddfa ystadegau, mae’r ffigurau newydd yn dangos mai fflat yw’r economi ar y cyfan – tywydd caled y gaea’ oedd wedi cael peth o’r bai am y cwymp cynharach.
Fe fydd pryderon am yr ail chwarter hefyd oherwydd effaith cyfres o wyliau banc a’r ffaith mai ym mis Ebrill y bydd toriadau gwario’r Llywodraeth yn Llundain wedi dechrau gafael o ddifri.
Fe fydd y ffigurau gwan hefyd yn ei gwneud hi’n haws i Fanc Lloegr gadw cyfraddau llog lle y maen nhw – ar eu hisaf erioed.
‘Newyddion da’
Ar ôl i’r Canghellor, George Osborne, ddweud ddoe bod yr economi “ar y llwybr iawn”, fe ddywedodd llefarydd yn y Trysorlys heddiw bod yr arwydd o dwf yn “newyddion da”.
“Mae gweithgynhyrchu’n tyfu’n gryf, mae’r economi wedi creu miloedd o swyddi ers troad y flwyddyn ac mae benthyg yn is,” meddai.
“Mae’r Llywodraeth wedi disgwyl erioed y bydd yr adferiad yn fratiog ond mae’r ffigurau heddiw yn dangos bod y Llywodraeth wedi gosod y cyfeiriad cywir.”