Yr Arlywydd Assad
Mae llygad dystion yn dweud bod yr awdurdodau yn Syria wedi cynnal rhagor o gyrchoedd mewn trefi ar draws y wlad gan fynd â channoedd o bobol i’r ddalfa ac ymosod ar eraill.
Mae’r cyrchoedd diweddar gan yr Arlywydd Bashar Assad wedi gwaethygu ers dydd Gwener, pan gafodd dros 100 o bobol eu lladd, a hynny er gwaetha’ rhybuddion gan wledydd fel Prydain a’r Unol Daleithiau.
Mae lluoedd diogelwch Syria wedi cynnal cyrchoedd yn ninas ddeheuol Daraa ac yn y brifddinas, Damascus, yn ogystal â threfi eraill ble mae protestwyr yn galw am ddiwygiadau eang a chael gwared ar yr Arlywydd Assad.
Yn ôl grwpiau iawnderau dynol, mae mwy na 400 o bobol wedi’u lladd ers canol mis Mawrth wrth i’r Llywodraeth geisio atal y protestiadau.
Ddoe, roedd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague wedi condemnio ymateb treisgar y Llywodraeth.