Mae’r heddlu yn chwilio am dystion ar ôl i ddynes gael ei lladd mewn gwrthdrawiad car ar gyrion Caerdydd neithiwr.

Fe fu farw’r ddynes 37 oed pan gollodd reolaeth ar y Volkswagen Golf gwyrdd yr oedd hi’n ei yrru a tharo clawdd gerllaw tafarn y Ceasar Arms ar Heol Creigiau, Creigiau.

Fe wnaeth nifer o deithwyr yn yr un cerbyd ddioddef mân anafiadau yn y gwrthdrawiad.

Dywed Heddlu De Cymru fod y ffordd yn dawel ar adeg y gwrthdrawiad.

Roedd y wraig yn byw yn ardal Llanilltud y Faerdref, ond dyw hi ddim wedi cael eu henwi eto.

Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un a stopiodd i helpu, neu unrhyw un a allai fod wedi gweld y cerbyd yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu ag uned plismona ffyrdd yr heddlu yn Nghaerdydd ar 02920 571600 neu Heddlu De Cymru ar 101.