Taflegryn o long danfor Trident (o wefan Wikipedia)
Mae gwybodaeth gyfrinachol am longau tanfor niwclear Prydain wedi cael eu cyhoeddi mewn camgymeriad ar y we.
Roedd rhannau cyfrinachol o adroddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cael eu cuddio â marciau duon gyda’r bwriad nad oedd modd eu darllen. Ond, yn sgil gwall technegol, gallai unrhyw un eu darllen trwy eu copïo a’u pastio i dddogfen arall.
Mae’r paragraffau sensitif yma wedi cael eu cuddio’n iawn bellach.
Yn ôl adroddiadau, roedden nhw’n cynnwys asesiadau arbenigwyr ynghylch gallu’r fflyd i wrthsefyll damwain drychinebus, ynghyd â manylion am y mesurau sy’n cael eu cymryd gan lynges yr Unol Daleithiau i amddiffyn ei fflyd.
Yn ôl yr Aelod Seneddol Torïaidd Patrick Mercer, fe fyddai’r wybodaeth wedi bod yn “hynod ddiddorol” i elynion Prydain a bod i hyn “y potensial i fod yn drychinebus”.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod nhw’n ddiolchgar i’r newyddiadurwr ar bapur Sul y Daily Star am dynnu eu sylw at y mater.
“Cyn gynted ag y clywson ni am hyn, fe wnaethon ni gymryd camau i sicrhau nad oedd y ddogfen ar gael i’r cyhoedd, a rhoi fersiwn wedi ei diogelu yn ei lle,” meddai.
“Rydym yn cymryd diogelwch niwclear yn ddifrifol iawn ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad yw rhywbeth fel hyn yn digwydd eto.”