Logo'r blaid eithafol
Mae Heddlu De Cymru’n dweud eu bod yn parhau i ymchwilio i achos yr ymgeisydd o’r BNP sy’n cael ei amau o losgi copi o’r Koran.

Yn ôl llefarydd, maen nhw’n ymgynghori gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn ag achos Sion Owens, 41 oed, sy’n ymgeisydd ar ran y blaid eithafol yn Ne Gorllewin Cymru.

Mae’r Gwasanaeth wedi awgrymu llwybrau newydd i’r heddlu eu dilyn, meddai, ac fe fyddan nhw’n dilyn y rheiny cyn penderfynu dod ag achos neu beidio.

Fe gafodd cyhuddiad yn erbyn Sion Owens ei dynnu’n ôl yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Llund diwetha’ ac, yn ôl yr heddlu, fe fydd hi’n cymryd peth amser cyn gorffen eu hymchwiliadau.

Arestio

Fe gafodd Sion Owens ei arestio nos Wener 8 Ebrill ar ôl i bapur newydd drosglwyddo lluniau fideo i’r heddlu’n awgrymu ei fod wedi llosgi copi o’r Koran.

Pan ddigwyddodd hynny yn yr Unol Daleithiau y mis diwetha’ fe arweiniodd at drais a marwolaethau yn Afghanistan.

Mae’r BNP wedi cadarnhau y bydd Sion Owens yn parhau’n ymgeisydd iddyn nhw ar y rhestr ranbarthol.