Alex Salmond - ar y blaen
Mae’r SNP wedi mynd heibio i Lafur yn y pôl piniwn diweddara’ yn yr Alban gan awgrymu y bydd gan Alex Salmond gyfle i ffurfio Llywodraeth arall.
Mae’r arolwg diweddara’ ym mhapur y Scotland on Sunday yn dangos newid llwyr tros bythefnos yr ymgyrch.
Ym mis Mawrth, roedd Llafur saith pwynt ar y blaen yn yr Alban; bellach, maen nhw dri phwynt ar ôl yn yr etholaethau a dau bwynt ar ôl yn y rhestrau.
Os yw’r pôl yn gywir, fe fyddai’n golygu bod gan yr SNP chwech sedd yn fwy na Llafur gan roi cyfle iddyn nhw ffurfio llywodraeth glymblaid gyda’r Ceidwadwyr neu gyfuniad o bleidiau eraill.
Yn ystod y pedair blynedd ddiwetha’, mae’r SNP wedi cynnal llywodraeth leiafrif.
Manylion y pôl
Yn yr etholaethau, mae cefnogaeth yr SNP wedi aros ar 40% a Llafur wedi cwympo i 37%.
Yn y rhanbarthau y cafwyd y newid mwya’, gyda Llafur yn syrthio chwech pwynt i 33 a’r SNP yn ennill tri i 35. Yn ôl llefarydd ar ran yr SNP, roedd hynny oherwydd bod y blaid wedi dadlau bod yr ail bleidlais ranbarthol yn refferendwm ar berfformiad Alex Salmond.
Mae’r pôl yn awgrymu hefyd bod Alex Salmond ddwywaith yn fwy poblogaidd na’r arweinydd Llafur, Iain Gray gyda 57% yn credu mai ef fyddai’r Prif Weinidog gorau.