Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi beirniadu gwesty ym Môn am wahardd ei staff rhag siarad Cymraeg gyda’i gilydd.
Cafodd staff cegin Gwesty Carreg Môn yn Llanfairpwll lythyr gyda’u slip cyflog ddiwedd y mis diwethaf yn eu gwahardd rhag siarad Cymraeg yn y gegin “am resymau diogelwch”.
Dywed y llythyr oddi wrth reolwr cyffredinol y gwesty, Ruth Hogan:
“Y prif gogydd, Bob Marsall, sy’n gyfrifol am y gegin, ac nid yw’n siarad nac yn deall Cymraeg; er mwyn i’n gwesty gael ei redeg mewn dull effeithlon a phroffesiynol mae’n holl bwysig fod pawb o’r staff yn deall ei gilydd.”
Mae hyn yn gwbl annerbyniol, yn ôl Ieuan Wyn Jones, sy’n ceisio cael ei ailethol fel Aelod Cynulliad dros Ynys Môn.
“Mi fyddaf i’n gofyn i’r gwesty ailystyried,” meddai. “Mi ddylai fod gan bobl yr hawl i siarad Cymraeg efo’i gilydd.”
Ychwanegodd ei fod yn ffyddiog y bydd y ddeddf iaith newydd, a ddaw i rym y flwyddyn nesaf, yn amddiffyn rhyddid pobl i siarad Cymraeg yn y gwaith.