Y Tywysog William a'i ddarpar wraig, Kate Middleton
Mae Cyngor Caerdydd wedi derbyn dros hanner cant o geisiadau i gau ffyrdd yn y ddinas ar gyfer cynnal partïon stryd ar ddiwrnod priodas y Tywysog William a Kate Middleton ymhen pythefnos.

 Mae hyn yn fwy o geisiadau nag yn unlle arall ym Mhrydain ac eithrio Llundain.

 Dydd Gwener diwethaf oedd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ac mae tîm priffyrdd y Cyngor wedi cael y dasg graffu ar bob un o’r 52 cais a rhoi cyngor i’r trefnwyr parti ynghylch arwyddion ffordd sy’n ofynnol er mwyn cau.

 Canol dydd tan chwech
Mae’r rhan fwyaf o’r ceisiadau’n gofyn am ganiatâd i gau ffordd o ganol dydd tan 6pm ar gyfer parti stryd.

“Mae’r briodas wedi ysgogi ysbryd cymunedol Caerdydd ac rwy’n falch y bydd cymaint o bobl yn arwain digwyddiadau cymunedol i’r teulu oll eu mwynhau,” meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a’r Aelod Gweithredol dros Gymunedau, Tai a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Cynghorydd Judith Woodman.

 “Mae’n addas fod Prifddinas Cymru, Caerdydd, yn arwain y ffordd gyda’r dathlu gan y gallai William fod yn Dywysog Cymru rhyw ddydd.”

‘Cynnwrf’

“Dw i’n meddwl bod ‘na lot o gynnwrf yng Nghaerdydd,” meddai Jayne Cowan, Cynghorydd annibynnol yn ardal Rhiwbina wrth Golwg360.

Mae’n gwybod am dri pharti stryd fydd yn cael ei gynnal yn ei hetholaeth.

“Mae llawer o’r genhedlaeth hŷn wedi cael partion stryd yn ymwneud â’r frenhiniaeth o’r blaen ac eisiau pasio’r atgofion ymlaen i’w perthnasau agos… Rydan ni’n gymdeithas agos iawn,”   meddai.

Yn ystod dathliadau Jiwbilî Aur 2002, fe gynhaliwyd dros 40 o bartïon stryd yn y ddinas.