John Dixon
Mae cyn-gadeirydd cenedlaethol Plaid Cymru wedi penderfynu gadael y blaid, ar ôl bron i 40 mlynedd o fod yn aelod.
Dywedodd John Dixon wrth Golwg 360 ei fod wedi penderfynu peidio adnewyddu ei aelodaeth ar ddiwedd 2010, ar ôl ystyried y peth “am gyfnod hir.”
Ymddiswyddodd John Dixon yn gadeirydd y blaid ym mis Gorffennaf, a dywedodd ei fod wedi penderfynu gadael y blaid am yr un rhesymau.
“Rydw i wedi mynd yn fwy a mwy anhapus, am sawl rheswm,” meddai John Dixon, a oedd yn ymgeisydd Cynulliad dros Blaid Cymru yn 2007.
“I ddyfynnu Ron Davies,” meddai, “mae gadael y blaid wedi bod yn broses, nid yn ddigwyddiad.”
Anghytuno â’r cyfeiriad
Dywedodd John Dixon fod Plaid Cymru wedi mynd i gyfeiriad nad oedd yn gyfforddus ag ef.
“Yn hytrach na herio a newid y sefydliad,” meddai, “mae Plaid Cymru bellach eisiau ennill grym o fewn y sefydliad.
“Mae hyn yn benderfyniad berffaith iawn i blaid wleidyddol ei wneud, ond dyw e ddim yn ddigon i fi.”
Yn ôl y cyn-gadeirydd, arweinwyr Plaid Cymru sydd wedi penderfynu mai dyna yw eu nod – “mae e’n fwy o newid cyfeiriad, na cholli cyfeiriad,” meddai.
Ond dywedodd nad oedd yn “dymuno manylu ar unrhyw drafodaethau mewnol,” gan ychwanegu ei fod “wedi bod yn blogio ers tair mlynedd, a dwi wedi bod yn esbonio fy mhryderon ar hwnnw”.
Ar ei flog, Borthlas, mae’n dweud fod cyfeiriad presennol Plaid Cymru yn ei gwneud hi’n gynyddol amhosib i wahaniaethu rhyngddi a phleidiau eraill Cymru.