Port Talbot
Fe fydd y diwydiant cynhyrchu yn chwarae rhan flaenllaw wrth adfer economi Prydain, meddai’r Ysgrifennydd Busnes, Vince Cable, wrth ymweld â Phort Talbot.
Roedd yn ymweld â gorsaf ddur Tata yn y dref, ble mae’r cwmni wedi buddsoddi £185 miliwn y llynedd, a ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
“Rydyn ni’n ffodus fod dau gwmni cynhyrchu byd enwog yma yn ne Cymru,” meddai.,
“Mae traean o’r holl injans Ford sy’n cael eu gwerthu yn rhyngwladol yn cael eu gwneud ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae dur Port Talbot yn cael ei allforio ledled y byd.
“Mae Tata a Ford yn buddsoddi miliynau ym Mhrydain, gan ddiogelu a chreu swyddi.
“Maen nhw’n dangos bod y diwydiant cynhyrchu yn chwarae rhan allweddol wrth hybu twf sydd heb ei ysgogi gan y gwasanaethau ariannol.”
Yn ystod ei ymweliad cyhoeddodd cwmni Tata eu bod nhw’n bariadu ehangu eu busnes yn Shotton, yn Sir y Fflint, gan greu 20 o swyddi newydd.
“Mae’r prosiect yn rhan allweddol o strategaeth Tata er mwyn datblygu cynnyrch newydd sy’n seiliedig ar egni adnewyddadwy,” meddai Peter Strikwerda, rheolwr gyfarwyddwr Tata Steel Colors.