Bwced casglu arian (o wefan y gyllideb)
Mae Barnardo’s Cymru wedi croesawu’r manteision treth sydd wedi eu cyhoeddi yn y Gyllideb ar gyfer rhoi arian mewn ewyllys i elusennau.

“Mae bron hanner yr holl roddion y mae Barnardo’s yn eu derbyn gan y cyhoedd bob blwyddyn yn dod trwy ewyllysiau ond r’yn ni wedi gweld y ffigwr yn cwympo yn ystod y blynyddoedd diwetha’ oherwydd y sefyllfa economaidd,” meddai’r Cyfarwyddwr, Yvonne Rodgers.

O dan y Gyllideb, fe fydd person sy’n gadael 10% i elusen mewn ewyllys yn cael rhyddhad o 10% rhag treth etifeddiaeth.

Fe fydd manteision treth cymorth rhodd yn cael eu hymestyn i gynnwys bocsys casglu a dulliau codi arian tebyg.

“R’yn ni’n gobeithio y bydd cynlluniau’r Canghellor yn annog pobol i adael rhagor o arian i elusennau fel Barnardo’s Cymru,” meddai Yvonne Rodgers. “Mae rhoddion o’r fath yn gwneud byd o wahaniaeth i’n gwaith.”