Cofeb brwydr Glyndwr ar Fynydd Hyddgen (Llun Lyn Léwis Dafis, Trwydded Creative Commons 2.5)
Mae’r Gweinidog Treftadaeth wedi lansio ymgynghoriad ar gynllun i nodi, diogelu a rheoli meysydd brwydr hanesyddol Cymru.

Y nod fyddai cynnwys meysydd brwydrau gan gynnwys Maes Gwenllian (1136), Pyllalai (1402) a maes Gwrthryfel Casnewydd (1830) ar gofrestr.

Byddai’r gofrestr yn debyg i’r Gofrestr Tirweddau, Parciau a Gerddi Safleoedd sydd o Ddiddordeb Hanesyddol  Arbennig yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, y byddai’r gofrestr yn help wrth ddiogelu y safloedd.

Byddai’r gofrestr hefyd o ddiddordeb i bobl leol ac ymwelwyr, ac yn adnodd gwerthfawr i’r maes addysg, hamdden a thwristiaeth, meddai.

Ar hyn o bryd, nid oes deddfwriaeth sylfaenol mewn grym i ddiogelu meysydd brwydr cyfan yng Nghymru, er bod rhai yn henebion cofrestredig neu fel adeiladau rhestredig.

“Mae meysydd brwydr yn rhan bwysig o amgylchedd hanesyddol Cymru ac yn cyfrannu tuag at ein hymdeimlad o hunaniaeth genedlaethol. Mae brwydrau mawr wedi newid llwybr hanes, yng Nghymru a thu hwnt,” meddai.

“Ychydig iawn o wybodaeth sydd gennym am rai o’r meysydd brwydr hyn a’r gobaith yw y bydd y gofrestr yn symbylu rhagor o ymchwil ar y meysydd brwydr.”

Ychwanegodd fod y meysydd hefyd yn cynnwys nodweddion archeolegol ac arteffactau o gyfnodau pwysig yn hanes Cymru.

“Mae’r tirlun lle cynhaliwyd y frwydr a’i hôl-troed ffisegol hefyd yn bwysig ac yn aml, mae’n egluro llawer am y strategaeth filwrol a’r tactegau a ddefnyddiwyd a’r modd y digwyddodd y brwydrau hyn,” meddai.