Enda Kenny
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi llongyfarch Taoiseach newydd Iwerddon, Enda Kenny.
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weld arweinydd newydd Gweriniaeth Iwerddon yn y Tŷ Gwyn ar ddydd Sant Padrig.
Fe fydd Enda Kenny yn cyfarfod â Barack Obama yn ei swyddfa hirgrwn ddydd Mercher.
Dywedodd ei fod hefyd yn bwriadu cyfarfod â arweinwyr cyngresol a buddsoddwyr wrth iddo geisio rhoi trefn ar economi ei wlad.
Galwodd Barack Obama y Taoiseach newydd bore ddoe gan ddweud bod yr Unol Daleithiau yn cefnogi Iwerddon i’r carn.
Dywedodd y Tŷ Gwyn y byddai’r ddau awreinydd yn trafod Libya a materion eraill yn ystod eu cyfarfod.