Gwesty'r Talbot, Tregaron (Llun gan Aeronian, trwydded Creative Commons 3.0)
Mae prifysgol yng nghanolbarth Cymru yn gobeithio y bydd cloddfa archeolegol yn dangos a gafodd eliffant ei gladdu yn ardd gefn gwetsy.

Bydd cloddfa wythnos o hyd yn rhan o brosiect gan Ysgol Archaeoleg Prifysgol Y Drindod Dewi Sant fydd yn dathlu hanes Eliffant Tregaron.

Yn ôl yn 1848 roedd syrcas deithiol yn Nhregaron. Ond yn ystod yr ymweliad â’r dref,  aeth eliffant yn sâl a bu farw ac yn ôl pob sôn fe’i claddwyd yn ardd gefn gwesty’r Talbot.

P’un ai ydy’r stori’n wir ai peidio, mae hanes yr eliffant Tregaron wedi dod yn rhan o lên gwerin leol ac mae’r eliffant wedi ennill statws chwedlonol yn yr ardal.

“Bydd cloddio ar raddfa fach yn digwydd yng nghyffiniau ‘carreg yr eliffant’ yn ystod mis Ebrill ,am tua 5 i 7 diwrnod,”  meddai Dr Jemma Bezant o’r Ysgol Archaeoleg.

“Mae’r stori hon yn perthyn i gymuned Tregaron a bydd y prosiect yn cynnwys y gymuned leol wrth i ni gasglu tystiolaeth a hanes lleol yn ogystal â darparu cyfle iddynt gymryd rhan mewn cloddiad archeolegol.

“Mae’r prosiect yn bwriadu casglu’r hanes a’r straeon sy’n ymwneud â’r eliffant ac am gynnwys y gymuned mewn gweithgareddau archeolegol ac yn y pendraw, creu cynnwys ar gyfer y wefan gymunedol.”

Ond roedd y gwesty yn arfer cynnwys fferm 100 acr, ac felly mae yna amheuaeth fawr ynglŷn â lle y cafodd yr eliffant ei gladdu.

Mae hefyd yn annhebygol y bydden nhw’n gallu dod o hyd i unrhyw esgyrn, oherwydd bod y tir yn asidig iawn.

Ond os oes twll maint eliffant wedi ei dyllu yn yr ardd gefn fe fyddai hynny’n amlwg, medden nhw.
“Mae’r prosiect yn ddathliad o hanes Eliffant Tregaron yn hytrach na cheisio ’darganfod y gwir’,” meddai Jemma Bezant.

“Mae’n debygol y byddwn yn codi mwy o gwestiynau nag o atebion. A bydd y prosiect yn cyfrannu at hanes cyfoethog yr ardal.

“Y prif nod yw cynnwys y gymuned leol yn y gwaith adeiladu ac wrth adrodd ar eu straeon a’u hanes nhw. “