Nick Clegg
Mae heddlu Sheffield wedi codi “mur haearn” er mwyn atal dros 10,000 o brotestwyr rhag aflonyddu ar gynhadledd wanwyn y Democratiaid Rhyddfrydol dros y penwythnos.

Fe fydd hyd at 1,000 o heddweision yn amddiffyn yr adeilad yn ystod y gynhadledd rhwng yfory a dydd Sul.

Mae ffens haearn 8 troedfedd o uchder wedi ei godi o amgylch Neuadd y Ddinas, ble y bydd y gwleidyddion yn ymgasglu.

Mae disgwyl y bydd miloedd o fyfyrwyr, undebwyr ac ystod eang o grwpiau eraill yn protestio yno er mwyn tynnu sylw at doriadau Llywodraeth San Steffan.

Mae’n debyg y bydd yn costio £2m i’r heddlu warchod y gwleidyddion.

Dywedodd Heddlu De Efrog eu bod nhw’n ymchwilio i adroddiad fod rhywun wedi bwriadu cipio arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, yn ystod y gynhadledd.

“Mae’r heddlu yn ymwybodol o’r adroddiad,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Fe fyddai’n amhriodol cynnig sylw arall ar hyn o bryd.”

Dywedodd cwmni Barclays eu bod nhw wedi penderfynu cau eu cangen yng nghanol y ddinas ddydd Sadwrn.

Mae yna sawl siop fawr arall o amgylch Neuadd y Ddinas – gan gynnwys John Lewis – ond dydyn nhw heb gyhoeddi cynlluniau i gau eto.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Martin Scothern, o Heddlu De Swydd Efrog, fod y ffens yn ffordd synhwyrol o gadw’r protestwyr draw.

“Dw i’n gobeithio y bydd y rhan fwyaf o bobol sy’n dod eisiau protestio yn heddychlon,” meddai.