Mae cwmni recriwtio Hamlyn Williams wedi cyhoeddi y byddan nhw’n sefydlu swyddfa newydd ym mhrifddinas Cymru, gan greu cant o swyddi yno.
Derbyniodd Hamlyn Williams hwb £552,000 gan Lywodraeth Cymru er mwyn lleoli eu swyddfeydd yn Capital Tower, Caerdydd.
Mae’r cwmni eisoes â swyddfeydd yn Llundain, Efrog Newydd, Hong Kong a Dubai; ac roedd De Affrica ymysg y gwledydd a gafodd eu hystyried ar gyfer y swyddfa newydd.
“Denu’r mawrion”
“Rydym eisoes wedi denu’r mawrion i Gymru, cwmnïau fel Deloitte,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.
“Mae’n bleser gen i estyn yr un croeso i Hamlyn Williams, a’i ychwanegu at y rhestr o’r mawrion sy’n mynd o nerth i nerth yma.
“Fel dinas Brifysgol, mae Caerdydd yn mynd i roi graddedigion talentog i roi cymorth i Hamlyn Williams’ yn ei menter newydd. Pob lwc iddyn nhw.”