Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi dweud eu bod yn “siomedig” bod profiadau pobol ifanc anabl ar drafnidiaeth gyhoeddus “yn aml yn methu a chyrraedd safonau.”
Daw sylw’r Pwyllgor Deisebau wrth iddyn nhw lansio adroddiad ‘Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt’.
Fel rhan o’r adroddiad bu’r pwyllgor yn ystyried deiseb gan bobol ifanc, ar y cyd ag elusen Whizz-Kidz, sydd yn galw am well mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
Yn yr adroddiad mae Aelodau Cynulliad yn nodi bod profiadau pobol anabl o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn “anghyson” a ddim yn “cyd-fynd” a pholisïau trafnidiaeth gyhoeddus.
Clywodd yr Aelodau am enghreifftiau lle’r oedd cwmnïau trenau yn gofyn am 48 awr o rybudd i ddarparu ramp mewn gorsaf, ac nad oedd ramp ar gael bob amser oherwydd prinder staff.
“Mwy i’w wneud”
“Roedd yr Aelodau’n siomedig nad oedd profiadau pobl anabl yn y byd go iawn yn cyd-fynd â’r polisïau a’r hyfforddiant a amlinellwyd gan y gweithredwyr trafnidiaeth,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, yr Aelod Cynulliad, David Rowlands.
“Rydym yn croesawu’r enghreifftiau a’r polisïau cadarnhaol a gyflwynwyd inni gan weithredwyr trafnidiaeth a Llywodraeth Cymru.
“Serch hynny, mae’n amlwg i ni fod mwy i’w wneud os ydym am sicrhau bod bysiau, trenau a thacsis ar gael i bawb.”
“Manteisio ar drafnidiaeth”
“Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn a byddwn yn ystyried ei argymhellion yn ofalus wrth bwyso a mesur beth arall y gallwn ei wneud i’w gwneud hi’n haws i bawb fanteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“O fuddsoddi er mwyn sicrhau bod yr holl gerbydau yn cydymffurfio â rheoliadau ynghylch Personau â Symudedd Cyfyngedig i sicrhau bod anghenion teithwyr yn flaenoriaeth i’r fasnachfraint rheilffyrdd nesaf a bwrw ymlaen â chynigion ar gyfer gwella gwasanaethau bws a thrwyddedu tacsis yn well – rydym yn anelu at sicrhau ei bod yn haws i bobl ar draws Cymru fanteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus.”