Mae dyn 44 oed wedi cael ei arestio yng Nghaerfyrddin ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.
Cafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i eiddo yn Stryd y Felin, Caerfyrddin nos Sul (1 Hydref) yn dilyn adroddiadau am ymosodiad ar ddyn.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe lle mae’n parhau i gael triniaeth.
Dywed yr heddlu bod ymchwiliad ar y gweill i’r ymosodiad a bod y dyn a gafodd ei arestio yn cael ei gadw yn y ddalfa.