Llun: PA
Mae ymdrech ar y gweill i ddychwelyd 110,000 o gwsmeiriad Monarch Airlines nol adre ar ôl i’r cwmni gwyliau gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Dywedodd yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) bod y Llywodraeth wedi gofyn iddyn nhw anfon mwy na 30 o awyrennau i ddod a theithwyr yn ôl i’r Deyrnas Unedig ar ôl i fwrdd Monarch Airlines gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr KPMG yn oriau man fore dydd Llun.

Mae methiant y cwmni yn golygu bod 300,000 o deithiau wedi cael eu canslo ac mae cwsmeriaid wedi cael eu cynghori i gadw draw o’r meysydd awyr gan na fydd rhagor o hediadau.

Mae teithwyr yn cael eu cynghori i fynd at wefan arbennig – monarch.caa.co.uk – am gyngor.

Dywed Monarch, sy’n cyflogi 2,100 o bobl ar draws y grŵp, eu bod nhw wedi cael trafferth ymdopi gyda chostau cynyddol a marchnad gystadleuol a oedd wedi arwain at golledion dros gyfnod o amser.

Yn ôl prif weithredwr y CAA, Andrew Haines, mae’r dasg o geisio dychwelyd yr holl deithwyr yn ôl i’r DU yn mynd i fod yn “heriol” ac yn galw ar gwsmeriaid i fod yn amyneddgar wrth iddyn nhw “weithio rownd y cloc i ddod a phawb yn ôl adre.”

Ni fydd yr hediadau yn arwain at gostau ychwanegol i deithwyr ac nid oes yn rhaid iddyn nhw ddod a’u gwyliau i ben yn gynnar, meddai’r CAA.

Mae llinell gymorth 24 awr hefyd wedi’i sefydlu sef 0300 303 2800 o’r DU ac Iwerddon a  +44 1753 330330 o dramor.