Josep-Maria Terricabras
Wrth i’r gorsafoedd pleidleisio gau ar ôl diwrnod cythryblus yn Catalwnia, mae un o wleidyddion y wlad yn rhybuddio y bydd llywodraeth Sbaen yn talu’r pris am ei gweithredoedd treisgar.

Wrth siarad gyda golwg360, meddai Josep-Maria Terricabras, un o aelodau Catalwnia yn Senedd Ewrop:

“Mae dros 500 o bobol wedi cael eu hanafu heddiw, gyda rhai ohonyn nhw’n dal yn yr ysbyty.

“Mae defnyddio trais eithafol fel hyn yn erbyn protestwyr heddychlon yn gwbwl annerbyniol mewn unrhyw gymdeithas ddemocrataidd.

“Y ffaith amdani yw nad democratiaeth yng ngwir ystyr y gair yw Sbaen ond gwladwriaeth sydd wedi deillio o gyfundrefn y Cadfridog Franco.”

Mae’n rhy gynnar i ddweud faint sydd wedi pleidleisio ar hyn o bryd, meddai, ond ychwanegodd y bydd gweithredoedd heddiw wedi cynyddu’r alwad am annibyniaeth i Catalwnia.

“Beth bynnag fydd yn digwydd, mae Sbaen wedi colli Catalwnia,” meddai. “Mae’r trais yn sicr o ennyn mwy o frwdfrydedd dros annibyniaeth.”

Beirniadu dulliau Sbaen

Mae Carwyn Jones, Nicola Sturgeon, Jeremy Corbyn a Vince Cable ymysg gwleidyddion o wledydd Prydain sydd wedi beirniadu gweithredoedd llywodraeth Sbaen heddiw.

“Golygfeydd dychrynllyd ar strydoedd Catalwnia heddi. Pan fydd trais yn disodli democratiaeth a deialog, nid oes enillwyr,” meddai Carwyn Jones ar Trydar.

Mae Nicola Sturgeon yn galw ar lywodraeth Sbaen i adael i bobl Catalwnia bleidleisio mewn heddwch, ac mae Jeremy Corbyn a Vince Cable yn galw ar lywodraeth Prydain i roi pwysau ar lywodraeth Sbaen.

Gwrthod galwadau o’r fath mae Llywodraeth Prydain, fodd bynnag. Meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor:

“Mater i lywodraeth a phobol Sbaen yw’r refferendwm.

“Mae arnom eisiau gweld cyfraith a chyfansoddiad Sbaen yn cael eu parchu a rheol y gyfraith yn cael ei hufuddhau.

“Mae Sbaen yn gyfaill da, ac mae ei chryfder a’i hundod yn bwysig i ni.”