Gorsaf St Charles, Marseille (llun: Golwg360)
Mae dwy ddynes wedi cael eu trywanu i farwolaeth â chyllell ym mhrif orsaf reilffordd Marseille yn ne Ffrainc.
Cafodd yr ymosodwr ei saethu’n farw wedyn gan filwyr a oedd ar patrôl yn yr orsaf.
Mae’r heddlu’n rhybuddio’r cyhoedd i osgoi gorsaf St Charles yn y ddinas wrth iddyn nhw ymchwilio i’r digwyddiad.
Cafodd adeilad yr orsaf ei wagio wedi’r ymsodiad, ac mae Gweinidog Cartref Ffrainc ar ei ffordd yno ar hyn o bryd.