(llun: PA)
Mae ymchwil newydd wedi dangos bod y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd y llynedd wedi amlygu arwyddocâd oedran a chymwysterau addysgol mewn agweddau cymdeithasol a gwleidyddol.
Yn ôl astudiaeth gan y Ganolfan Ymchwil Cymdeithasol Cenedlaethol (NatCen), mae’r gwahaniaethau rhwng y rheiny sy’n gymdeithasol ryddfrydig a’r rhai sy’n gymdeithasol geidwadol yn cyfrif mwy na gwleidyddiaeth dosbarth bellach.
Roedd y rhai cymdeithasol geidwadol yn gweld mewnfudo fel bygythiad ac wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, tra bod y rhai rhyddfrydig yn mwynhau byw mewn cymdeithas fwy amrywiol ac wedi pleidleisio i aros.
Mae pleidleiswyr iau a graddedigion yn tueddu i fod yn gymdeithasol ryddfrydig, a phobl hŷn gydag ychydig, neu heb ddim, gymwysterau addysgol yn tueddu i fod yn gymdeithasol geidwadol.
Grwpiau o etholwyr
Mae’r astudiaeth yn diffinio chwe grŵp o etholwyr:
- “Prydain gysurus” (25.5% o etholwyr). Pobl hŷn sy’n berchen eu tai eu hunain, safbwyntiau cymharol asgell dde, ond heb bryder neilltuol am fewnfudo.
- “Dobarth gweithiol traddodiadol” (14% o’r etholwyr). Tueddu i fod yn bobl hŷn â safbwyntiau gweddol asgell chwith, ond heb fod yn arbennig o ryddfrydig yn gymdeithasol.
- “Elît rhyddfrydig” (17.6% o’r etholwyr) sy’n raddedigion mewn galwedigaeth proffesiynol yn bennaf, yn gymdeithasol ryddfrydig a’r mwyafrif mawr wedi pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
- “Ifanc rhyddrydig” (15.7%). Pobl iau yn bennaf mewn swyddi canolig ac sy’n tueddu i feddwl amdanyn nhw’u hunain fel pobl ddosbarth gweithiol. Maen nhw’n gymharol ryddfrydig ac yn gefnogol i fewnfudo.
- “Y rhai a adawyd ar ôl” (10.9%). Pleidleiswyr canol oed a hŷn nad ydynt yn arbennig o asgell dde ond sy’n geidwadol gymdeithasol ac yn pryderu am fewnfudo. Fe wnaeth bron bawb o’r rhain bleidleisio dros Brexit.
- “Ifanc, wedi dadrithio” (16.3%) sy’n tueddu i beidio â chwarae unrhyw ran yn y broses wleidyddol.
Wrth esbonio’r canlyniadau, meddai Roger Harding o NatCen:
“Mae Brexit wedi newid teyrngarwch gwleidyddol yn ddramatig. Rydym bellach yn wlad sy’n cael ei rhannu fwyfwy gan oedran a rhyddfrydiaeth yn erbyn ceidwadaeth, yn hytrach na dosbarth neu’r chwith yn erbyn y dde.
“Er mai’r Torïaid yw plaid pleidleiswyr Brexit yn bennaf, a Llafur yw plaid yr Arhoswyr, mae gan bob un leiafrifoedd sylweddol yn y gornel arall.
“Mae’r ddwy blaid yn wynebu amser cael wrth geisio cadw’r gwahanol garfannau yn hapus.”